#                                                                                      

Y Pwyllgor Deisebau | 2 Ebrill 2019
 Petitions Committee | 2 April 2019
 
 
 ,Papur briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil: Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Rhif y ddeiseb: P-05-871

Teitl y ddeiseb: Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Testun y ddeiseb: Yng Nghymru, mae llawer o fusnesau, ysbytai a pharciau/safleoedd a gynhelir gan gynghorau lle nad oes cyfleusterau newid cewynnau ar gael i ddynion a menywod eu defnyddio. Fel arfer, dim ond mewn toiledau i fenywod y mae’r cyfleusterau ar gael.


Oherwydd hyn, mae dynion yn aml yn gorfod mynd i chwilio am gyfleusterau y cânt eu defnyddio neu, ar lawer o achlysuron, ddefnyddio mesurau dros dro fel newid cewyn ar y llawr, ar ben caead bin ag olwynion mewn toiledau, cydbwyso’r plentyn ar eu côl ac ar fainc yn yr awyr agored.


Gofynnwn i’r Cynulliad sicrhau bod pob gwaith adnewyddu yn y dyfodol ac adeilad newydd mewn mannau sy’n agored i’r cyhoedd â man diogel a glân i newid cewynnau a galluogi plant bach i fynd i’r toiled yn ddiogel ac, fel mesur tymor byr, drefnu bod cyfleuster newid cewynnau ar ffurf bwrdd neu uned gollwng-i-lawr ar gael.

 

Yn 2018, tynnodd ymgyrch #SquatforChange ar y cyfryngau cymdeithasol sylw at y teimlad o rwystredigaeth ymysg tadau ynghylch diffyg cyfleusterau newid cewynnau mewn toiledau cyhoeddus i ddynion. Dechreuwyd yr ymgyrch ar Instagram gan Donte Palmer o’r Unol Daleithiau ond cydiodd yn gyflym yn y DU hefyd.

Mae canllawiau arferion gorau Cymdeithas Toiledau Prydain yn argymell y dylai’r holl doiledau mewn mannau cyhoeddus ddiwallu anghenion rhieni o’r naill ryw sydd â babanod a phlant ifanc. Fodd bynnag, mae’r canllawiau hefyd yn cydnabod nad oedd toiledau hŷn wedi’u dylunio ag anghenion teuluoedd, mamau a phlant ifanc neu bobl anabl mewn golwg, heb sôn am ddynion sy’n newid cewynnau.

 

 

 

Yr Unol Daleithiau

Mae Bathroom Accessible in Every Situation Act 2016 yn nodi y dylai adeiladau ffederal fod â chyfleusterau newid cewynnau ac y dylid eu gosod mewn toiledau i ddynion hefyd.

Ym mis Ionawr 2019, newidiwyd y ddeddfwriaeth yn Efrog Newydd i sicrhau bod gan unrhyw doiledau newydd neu doiledau wedi’u hadnewyddu gyfleusterau newid cewynnau i ddynion a menywod.

Yr Alban

Mae Rhan 3.12.12 o’r Scottish Building Standards (2017) yn datgan y canlynol:

Baby changing facilities should be provided either as a separate unisex facility or as a dedicated space within both male and female sanitary accommodation and not within an accessible toilet.

Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi bod Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddatblygu strategaeth toiledau lleol. Rhaid i’r strategaeth hon gynnwys asesiad o’r angen am doiledau mewn cymuned (gan gynnwys cyfleusterau newid cewynnau a chyfleusterau ar gyfer pobl anabl), a rhaid iddi nodi sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu diwallu’r angen hwn. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â phartïon â chanddynt fuddiant ar eu strategaethau drafft.

Mae angen i strategaethau toiledau lleol fod ar waith erbyn 31 Mai 2019. Nid yw darpariaethau Deddf 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cyfleusterau toiled, ac nid ydynt yn atal awdurdodau rhag cau toiledau. Bwriad y Ddeddf yw gwella’r broses o gynllunio darpariaeth fel y gellir dod o hyd i ddarpariaeth amgen i doiledau cyhoeddus traddodiadol o fewn cymunedau, a bod unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud yng nghyd-destun anghenion cymuned.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol, sy’n cynnwys ystyried anghenion rhieni plant ifanc a darpariaeth toiledau cyn gwneud gwaith adnewyddu a chodi adeiladau newydd yn y dyfodol.

Yn ei hymateb i’r ddeiseb, nododd Llywodraeth Cymru y canlynol:

Nid yw Rheoliadau Adeiladu yn gosod unrhyw ofyniad (ar gyfer adeiladu o’r newydd nag adnewyddu) am ddarpariaeth toiledau neu gyfleusterau newid babanod, ond maen nhw’n nodi safonau cynllunio pan fo’r cyfleusterau hynny i gael eu darparu. Lle mae bwriad i ddarparu cyfleusterau newid babanod, mae’r canllawiau statudol a’r Safonau Prydeinig perthnasol yn argymell y dylent fod yn hygyrch ac nid mewn toiledau neillryw.

Mae Rhan M(mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt) o Reoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru yn datgan y canlynol (Saesneg yn unig):

Wheelchair-accessible unisex toilets should not be used for baby changing. [..]

The provision of an enlarged cubicle in a separate-sex toilet washroom can be of benefit to ambulant disabled people, as well as parents with children and people (e.g. those with luggage) who need an enlarged space. In large building developments, separate facilities for baby changing and an enlarged unisex toilet incorporating an adult changing table are desirable.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.